Cefndir


Mae’r Cynllun Braenaru ADY yn brosiect adnoddau cydweithredol sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy gyfrwng y rhaglen grantiau pontio ADY ranbarthol.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng y pedwar coleg addysg bellach yng Nghonsortiwm Canolbarth y De:  

  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
  • Coleg Merthyr Tudful
  • Coleg y Cymoedd.

Mae’r wefan hon yn darparu adnoddau teilwredig ar gyfer tri o grwpiau rhanddeiliaid:

  • Pobl Ifanc
  • Rhieni / Gofalwyr
  • Gweithwyr Proffesiynol.

Mae’r pynciau a’r adnoddau ar y safle’n gyffredin i bob coleg addysg bellach yng Nghonsortiwm Canolbarth y De, ond y nod yw galluogi defnyddwyr i edrych ar golegau unigol i ganfod gwybodaeth benodol sy’n berthnasol i gefnogaeth ADY a phontio ar gyfer pobl ifanc sydd ag ADY sydd eisiau gwneud cais neu fynychu coleg addysg bellach penodol.